Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 11 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.06 - 10.29 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf
Adolygodd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 18 Chwefror a chytunodd i:
1. wahodd Arolygiaeth Gynllunio Cymru i roi tystiolaeth ar y materion a godwyd yn y ddeiseb a'r cysondeb o ran dulliau pawb sydd ynghlwm wrth y broses;
2. ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd; ac
3. ysgrifennu at CLlLC i ofyn ei farn am sut y caiff y broses ei rheoli ym mhob awdurdod lleol.
3 Deisebau newydd
3.1P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy’n addas at y diben
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
1. ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb ynghyd â rhagor o wybodaeth am y broses gyfatebol ar gyfer y fframwaith arolygu addysg bellach;
2. ysgrifennu at Estyn yn gofyn am ragor o wybodaeth am aelodau'r grŵp cynghori a'r sail resymegol y tu ôl iddo.
3.2P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo Caerdydd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
Ø eu barn am y materion a godwyd gan y ddeiseb;
Ø am ragor o wybodaeth ynghylch eu cynlluniau ar gyfer adeilad y Gyfnewidfa Glo a'r rhesymau tu ôl i'r penderfyniad; ac
Ø a all y Pwyllgor ymweld â'r adeilad.
3.3P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
1. y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ofyn ei barn am y ddeiseb ac i ofyn a fydd y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig yn mynd i'r afael a'r materion a godwyd;
2. Cymorth i Fenywod Cymru am ei farn ar yr ystadegau a ddarparwyd gan y deisebydd.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr yn diolch iddynt am gyflwyno'r ddeiseb a chau'r ddeiseb.
4.2P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog, ac yn absenoldeb ymateb gan y deisebwyr, cytunodd i chwilio am gyswllt arall yn Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd i geisio ail-gysylltu.
4.3P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn ei barn am sylwadau'r deisebydd yn gyffredinol ac yn benodol am bwynt 8.
4.4P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy yr A483
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu hymateb i lythyr y Gweinidog.
4.5P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunodd i ysgrifennu at:
1. y deisebwyr i ofyn eu barn am lythyr y Gweinidog ac i ofyn am ragor o wybodaeth am eu cynlluniau mewn perthynas â chyflwyno eu hachos busnes i Lywodraeth Cymru am gyllid;
2. y Gweinidog yn gofyn iddi hysbysu'r Pwyllgor am ganlyniad y cais am gyllid, ar ôl i'r Llywodraeth gael yr achos busnes.
4.6P-04-531 Ailenwi Maes Awyr Caerdydd ar ôl Eicon o Gymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ac am ei bod yn dweud yn glir nad oes cynlluniau i newid enw Maes Awyr Caerdydd, cytunodd i gau'r ddeiseb.
4.7P-04-422 Ffracio
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd, a oedd yn cynnwys llythyr ato gan y Prif Weinidog, a chytunodd i ysgrifennu at:
1. y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd ac yn benodol y ceisiadau gan randdeiliaid am ganllawiau ychwanegol;
2. y Prif Weinidog, yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch ei farn ymddangosiadol bod y strwythurau rheoleiddio presennol yn briodol, yn enwedig o ystyried barn rhanddeiliaid, sy'n awgrymu i'r gwrthwyneb;
3. y deisebydd, yn gofyn am ragor o wybodaeth am y llefarydd diwydiant a soniwyd amdano yn yr ohebiaeth; a
4. Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gofyn ei farn.
4.8P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
1. ysgrifennu'n gyfrinachol at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn ei farn am wybodaeth ychwanegol y deisebydd ac yn gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor am ganlyniad ei ystyriaeth o'r argymhellion yn deillio o adroddiad Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru; a
2. gofyn am ragor o gyngor ac, os oes angen, camau gweithredu o ran rhoi gwybod i'r awdurdodau rheoleiddio perthnasol ynghylch materion lles anifeiliaid posibl.
4.9P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg
Yn dilyn diffyg ymateb gan y deisebydd i lythyr gan y Bwrdd Iechyd Lleol, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
4.10 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
1. ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gofyn am ragor o fanylion o ran yr amserlen ar gyfer darparu gwybodaeth wedi'i theilwra; a
2. gan ystyried bod cryn dipyn o amser ers cyflwyno'r ddeiseb, gofyn am bapur briffio byr gan y gwasanaeth ymchwil, yn dod â'r holl wybodaeth at ei gilydd.
4.11 P-04-530 Labelu Dwyieithog
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am ei ymateb i sylwadau'r Gweinidog.
4.12 P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru
Oherwydd diffyg ymateb gan y deisebwyr, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a thrwy hynny, roi gwybod i Grŵp Trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol.
4.13 P-04-478 Pecyn gwybodaeth syml i bawb yng Nghymru yn esbonio sut y gallant sefyll fel ymgeisydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb.
4.14 P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto, yn gofyn ei farn am ohebiaeth ychwanegol y deisebydd.
4.15 P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghyd â'r wybodaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
1. yr Awdurdod Tân ac Achub yn gofyn ei farn am y ddeiseb a'r risgiau sydd wedi'u nodi;
2. y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, oherwydd ei chyfrifoldeb dros ddiogelwch tân yn y gymuned; a'r
3. cyrff ymbarél perthnasol yn y diwydiant carafanau yn gofyn eu barn am y materion sy'n cael eu codi yn y ddeiseb.
4.16 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghyd â'r sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
1. grwpio'r ddeiseb gyda P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat yn ôl cais y deisebydd; a
2. gohirio trafod y ddeiseb, am fod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu gorfodol ar gyfer landlordiaid yn y sector rhentu preifat ac asiantau gosod a rheoli fel rhan o'r Bil Tai.
4.17 P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am ei ymateb i sylwadau'r Gweinidog.